Gweddïau ar gyfer Oedolion a Phob Oed 9-15 Mehefin 2024
Adult & All Age prayers in Welsh
Dewisiadau a chanlyniadau
1 Samuel 8:4-11, (12-15), 16-20, (11:14-15)
Galwad i addoli
Mewn byd o ddewisiadau
dewiswn dreulio amser gyda Duw;
cynigiwn iddo yr hyn sydd gennym a phwy ydym ni.
Canlyniad ein dewis
yw fod Duw yn ein cyfarfod ac yn siarad â ni;
na foed i ni fethu gwrando.
Gweddi ymgynnull
Dduw pob dydd a phob moment,
rwyt yn galw arnom i wneud dewisiadau:
dewisiadau am y ffordd y byddwn yn byw,
sut y byddwn yn defnyddio ein hamser a’n hadnoddau,
ar bwy y byddwn yn cadw golwg,
a’r hyn y byddwn yn ymrwymo iddo.
Wrth i ni ddod o’th flaen yn awr,
bendithia ni â dirnadaeth ddoeth a thrugaredd cariadlon,
fel y gallwn wasanaethu yn ôl esiampl Iesu.
Amen.
Gweddi ddynesu
Roedd pobl Israel yn dymuno cael brenin.
Roedd arnynt eisiau rhywun a fyddai’n ymladd eu brwydrau.
Wnaethon nhw ddim meddwl am y canlyniadau.
Rwyt ti, Dduw nerthol, uwchben holl frenhinoedd y byd.
Rwyt yn rhoi i ni gryfder, gallu a dewisiadau ar gyfer ymladd ein brwydrau ein hunain.
Dewiswn dy ddilyn di a chael budd o’th amryfal gryfderau a bendithion.
Gogoniant fo i ti, ein Duw graslon.
Amen.
Gweddi o addoliad
‘Arglwydd Dduw, pan elwais arnat, atebaist fi, a chynyddaist fy nerth ynof. Ymgrymaf tuag at dy deml sanctaidd, a chlodforaf dy enw am dy gariad a’th ffyddlondeb.’ (Salm 138)
Arglwydd Dduw, faint bynnag yw ein hoed, rwyt yn dangos i ni dy gariad a’th drugaredd.
Pa un ai ydym ni’n newydd yn y ffydd neu wedi dy adnabod am fwy o flynyddoedd nag y gallwn eu cofio, rwyt ti yno i ni.
Hyd yn oed pan na fydd canlyniadau ein dewisiadau yn dda, rwyt ti yn trugarhau wrthym. Ymgrymwn i’n Duw nerthol i’r hwn nad oes unrhyw beth yn amhosibl.
Amen.
Gweddi o gyffes
Arglwydd Dduw, weithiau byddwn yn dra ymwybodol o ganlyniadau dewisiadau gwael. Pan fyddwn yn darllen y papur neu yn gwylio’r newyddion. Hyd yn oed yn gwylio ein ffrindiau a’n teulu ein hunain. Ac yna wedyn wrth gwrs, ni ein hunain.
Nid ydym bob amser wedi dewis yn ddoeth. Ac weithiau rydym wedi gorfod byw gyda’r canlyniadau. Arglwydd Dduw, rydym yma yn awr i gyffesu ein dewisiadau gwael. (saib) Mae’n wir ddrwg gennym, Arglwydd, a gofynnwn i ti faddau i ni a’n helpu i sicrhau bod popeth yn iawn.
Amen.
Sicrwydd o faddeuant
Cerddwn trwy ffydd ac nid trwy’r hyn a welwn.
Mae Duw yn gweld ein calonnau ac yn gwybod pan fyddwn yn ymdrechu i wneud ein gorau.
Mae’n ein caru ac mae arno eisiau i ni wneud ein dewisiadau gorau ynddo ef.
Mae’n ein bendithio yn awr â’i faddeuant a llawnder bywyd.
Amen.
Gweddi o ddiolchgarwch
Arglwydd Dduw, diolchwn i ti am ein gosod mewn cymuned. Mae ein bywyd wedi ei lunio o glystyrau o wahanol bobl; nid oes gennym ddewis pwy yw rhai ohonynt. Ond diolchwn i ti, Arglwydd, y gallwn ynot ti bob amser ddewis sut yr ydym yn ymateb. Heddiw dewiswn dy ffordd di o ddangos dy gariad tuag at bawb. Diolchwn i ti, Dduw y bobl, mai ti yw ein brenin. Mae gennyt ti’r gallu i’n gwneud yn gymuned sy’n cael ei thrawsnewid gan dy gariad di a’n gweithredoedd ni.
Amen.
Gweddi ar gyfer pob oed gyda’i gilydd
Molwch Dduw sy’n llawenhau gyda ni pan fyddwn yn gwneud dewisiadau da.
(bodiau i fyny)
Molwch Dduw sy’n maddau i ni ac yn ein hadfer pan fyddwn yn gwneud dewisiadau gwael.
(bodiau i lawr)
Molwch Dduw sydd gyda ni bob amser.
(dathlu trwy chwifio breichiau)
Amen.
Gweddi i gloi
Boed i Dduw roi i ni lygaid ffydd i weld ffordd Duw
yn wyneb yr holl ddewisiadau sydd o’n blaenau.
Boed i Dduw fod yn rhan o’n dewisiadau a’n cynlluniau.
Boed i Dduw ein bendithio ni a phawb yr ydym yn ceisio eu gwasanaethu.
Amen.