Gogoniant y Pasg
Ioan 13.31-35
Tudalen / page 37
Galwad i addoli
yn seiliedig ar Salm 148.13
Gadewch i ni foli enw’r Arglwydd,
oherwydd ei enw ef yn unig sydd ddyrchafedig;
ac y mae ei ogoniant ef uwchlaw daear a nefoedd.
Gadewch i ni foli enw’r Arglwydd gyda’n gilydd.
Gweddi ymgynnull
Arglwydd, down ger dy fron di,
yn bobl unigol a chymhleth;
ac eto gyda’r un awydd
i’th addoli di.
Gweddïwn y byddi di’n llefaru geiriau dy gariad
i mewn i’n calonnau’r bore yma.
Bydd gyda ni, Arglwydd.
Amen.
Gweddi ddynesu
Arglwydd atgyfodedig, rydym yn deall cyn lleied
ystyr dy ogoniant di.
Eto rydym yn meiddio dod atat.
Bydd drugarog wrthym, a llanw ni â rhyfeddod,
gan ddeall yr hyn sydd angen i ni ddeall,
a gan ryfeddu wrth yr hyn sydd uwchlaw deall.
Amen.
Gweddi o gyffes
Arglwydd, cyffeswn ein bod yn aml rhy ynghlwm i bethau yn ein bywydau
i geisio meddwl yn greadigol, yn ddychmygus, yn wahanol;
i ddechrau mynd ar ôl rhyfeddodau’r
‘beth os’ a all fod o’n cwmpas;
i gymryd amser i weld dy ogoniant a’r cyfan mae’n ei olygu;
i chwilio am ogoniant mewn mannau annisgwyl.
Maddau i ni, Arglwydd, wrth i ni ddod yn wylaidd ger dy fron.
Helpa ni i wrando ar, ac i weithredu ar ysgogiadau dy Ysbryd.
Amen.
Gweddi o ddiolchgarwch
Diolchwn i ti, Iesu, dy fod yn ein caru gymaint
nes i ti farw drosom ac atgyfodi.
Diolchwn i ti, Iesu, dy fod wedi rhoi dy Ysbryd i ni
i’n diddanu ac i’n harwain.
Diolchwn i ti, Iesu, dy fod wedi rhoi i ni
y ffordd berffaith i ddangos dy gariad at eraill,
nid gyda geiriau hirion
ond yn syml trwy eu caru gyda’th gariad di.
Agor ein calonnau heddiw
fel y gallwn dderbyn dy gariad o’r newydd,
ac yna gallwn roi
ymhell y tu hwnt i’r hyn buaswn yn credu’n bosibl.
Amen.
Gweddïau o eiriolaeth
yn seiliedig ar Actau 11.15
‘Ac nid cynt y dechreuais lefaru nag y syrthiodd yr Ysbryd Glân arnynt hwy fel yr oedd wedi syrthio arnom ninnau ar y cyntaf.’
Arglwydd, gwyddom ein bod yn tueddu i garu’r rhai sy’n debyg i ni.
Rydym yn tueddu i feddwl am bobl sy’n anodd eu caru
fel ‘allan yna’, nid ar drothwy ein drws.
Ond maen nhw’n aml yn nes o lawer na hynny,
maen nhw yn ein teulu.
Ac, os cyfaddefwn ni, weithiau ni’n hunain yw’r rhai a gawn yn anodd eu caru.
Ysbryd Glân, disgyn arnom ni.
Gweddïwn nawr dros ein teuluoedd, ein hanwyliaid.
Nid ydynt bob amser yn dewis y ffordd o fyw y buasem ni’n ei ddewis drostynt,
ond, Arglwydd, gweddïwn y byddi di’n ein helpu i gerdded yn ddoeth
gyda nhw, gan fod yno iddyn nhw, ond nid yn eu hwyneb.
Helpa ni i gofio nad wyt yn gweithio ar un ochr i’r hafaliad yn unig;
rwyt ti gyda nhw cymaint ag wyt ti gyda ni.
Boed i ni gael ein harwain gan dy Ysbryd,
wrth i ni geisio cipolwg o’th ogoniant yn y rhai o’n cwmpas.
Ysbryd Glân, disgyn arnom ni.
Gweddïwn dros y rhai sydd ‘allan yna’,
fel na fyddwn cymaint yn ceisio eu dwyn i mewn,
ond yn barod i fod allan yna
gyda nhw yn eu hangen.
Ysbryd Glân, disgyn arnom ni.
Arglwydd, weithiau byddwn yn cerdded llwybr anodd
rhwng bod yn driw i ni’n hunain, a pheidio â thramgwyddo eraill.
Gweddïwn dros:
y rhai y cawn yn anodd eu caru am eu bod yn wahanol,
y rhai y teimlwn efallai y gallant helpu eu hunain fwy,
y rhai na chawsant yr un manteision â ni.
Gweddïwn am ysbryd agored
a pharodrwydd i weld dy ogoniant ym mhob man.
Ysbryd Glân, disgyn arnom ni.
Amen.
Gweddi bersonol
Arglwydd, helpa fi i wybod pan nad wyf yn hawdd i’m caru,
a helpa fi i wneud rhywbeth amdano.
Amen.
Gweithgaredd gweddi:
Treuliwch ychydig amser yn dwyn i gof rhywun rydych yn ei gael yn anodd eu caru. Gwnewch benderfyniad i ddangos caredigrwydd iddynt mewn ffordd fechan benodol yr wythnos hon, a gweddïwch y bydd rhywbeth mawr yn tyfu allan o rywbeth bychan.
Gweddi ar gyfer pob oed gyda’i gilydd
Arglwydd, weithiau cawn hi’n anodd i garu pobl eraill.
Llanw ni a’th gariad (meimio yfed gwydriad llawn).
Gweddïwn y byddi di’n ein helpu eu deall.
Llanw ni a’th gariad.
Ac i’th weld di ynddynt.
Llanw ni a’th gariad.
Ac i’th dwyn di gyda ni, ble bynnag yr awn.
Llanw ni a’th gariad.
Amen.
Gweddi i gloi
yn seiliedig ar Ioan 13.35
‘Os bydd gennych gariad tuag at eich gilydd, wrth hynny bydd pawb yn gwybod mai disgyblion i mi ydych.’
Arglwydd, awn allan yn awr,
yn dy enw di ac yn dy gariad di.
Bendithia ni, Arglwydd.
Amen.