Tudalen/page 40
Galwad i addoli
Gorfoleddodd y disgyblion pan welsant eu Harglwydd.
Deuwn gerbron ein Duw heddiw
â llawenydd yn ein calonnau.
Gan roi heibio ein gofidiau,
canolbwyntiwn ar yr un sydd wedi ei gyfodi o farw.
Atgyfododd Crist, haleliwia!
Gweddi ymgynnull
Arglwydd atgyfodedig, ymgasglwn fel aelodau o’th deulu yn...
Fel dy ddisgyblion gynt, rydym mor wahanol:
mae gennym wahanol bersonoliaethau,
gwahanol ffrindiau a theuluoedd,
ond yr wyt ti’n ein cynnull yma, Arglwydd,
a gofynnwn i ti ein gwneud yn un
wrth i ni uno yn ein mawl ac addoliad.
Amen.
Gweddi ddynesu
Dywed Iesu:
‘Lle y mae dau neu dri wedi dod ynghyd yn fy enw i,
yr wyf yno yn eu canol.’
Daeth y disgyblion at ei gilydd yn yr oruwch ystafell
pan oedd ofn arnynt.
Ac yr oeddet ti, Arglwydd Iesu, yno gyda nhw.
Daethant at ei gilydd eto pan oedd ganddynt achos i ddathlu.
Ac yr oeddet ti, Arglwydd Iesu, yno gyda nhw.
Diolch dy fod yma gyda ni heddiw
sut bynnag fyddwn yn teimlo.
Agor ein calonnau a’n meddyliau i dy weld di, Arglwydd.
Amen.
Gweddi o gyffes
Arglwydd, os ydym yn onest mae’n rhaid cyffesu
ein bod weithiau, fel Thomas,
yn ei chael yn anodd credu ynot.
A gofynnwn am brawf.
Efallai bod cywilydd arnom am hynny
ac fe geisiwn ei gadw’n dawel.
Byddwn hyd yn oed yn cadw ein teimladau rhagot.
Gweddïwn heddiw am onestrwydd yn ein perthnasau,
nid yn unig â thi, ond â’n gilydd.
Fel y gallwn ategu geiriau Thomas:
‘Fy Arglwydd a’m Duw.’
Amen.
Gweddi o ddiolchgarwch
‘Gwyn eu byd y rhai a gredodd
heb iddynt weld.’
Diolch, Arglwydd, dy fod mor amyneddgar gyda ni
pan fyddwn ninnau’n ddiamynedd.
Ni fyddi di byth yn ein gorfodi i gredu,
ond rwyt yn llawenhau pan fyddwn yn credu.
Diolch, Arglwydd, y galli di dorri ein rhwystrau
a’n gollwng yn rhydd i’th garu a’th addoli di.
Amen.
Gweddïau o eiriolaeth
Rydym yn byw mewn byd ble mae llawer yn amau.
Gweddïwn heddiw dros y rhai sy’n amau
oherwydd nad oes unrhyw un wedi dangos gariad Iesu iddynt.
Arglwydd, bydd yn drugarog wrthynt bob un.
Gweddïwn heddiw dros y rhai sy’n amau
oherwydd nad yw amgylchiadau eu bywyd
yn dangos unrhyw arwydd o Dduw cariad.
Arglwydd, bydd yn drugarog wrthynt bob un.
Gweddïwn heddiw dros y rhai sy’n amau
oherwydd iddynt gael eu brifo neu eu siomi gan eraill.
Arglwydd, bydd yn drugarog wrthynt bob un.
Gweddïwn heddiw dros y rhai sy’n amau
oherwydd i ryfel neu drychineb naturiol
eu dinistrio neu’r rhai a garant.
Arglwydd, bydd yn drugarog wrthynt bob un.
Gweddïwn heddiw dros y rhai sy’n amau
oherwydd eu bod yng nghanol tywyllwch gwaeledd neu alar.
Arglwydd, bydd yn drugarog wrthynt bob un.
Arglwydd, gweddïwn heddiw dros y rhai sy’n amau
dy gariad am ba reswm bynnag.
Arglwydd, bydd yn drugarog wrthynt bob un.
Amen.
Gweddi bersonol
Dywedodd Iesu wrth Thomas:
‘Paid â bod yn anghredadun, bydd yn gredadun.’
Atebodd Thomas ef, ‘Fy Arglwydd a'm Duw!’
Dywed Iesu wrthyf fi:
‘Paid â bod yn anghredadun, bydd yn gredadun.’
Atebaf innau, ‘Fy Arglwydd a'm Duw!’
Treuliwch ychydig amser yn dweud wrth eich Arglwydd a’ch Duw eich bod yn ymddiried ynddo gyda phob un o’ch gofidiau.
Yna ymlaciwch yn ei bresenoldeb a’i addoli.
Gweithgaredd gweddi
Dywedodd Iesu wrtho, ‘Os yw'n bosibl! Y mae popeth yn bosibl i'r sawl sydd â ffydd ganddo.’ Ar unwaith gwaeddodd tad y plentyn, ‘Yr wyf yn credu; helpa fi yn fy niffyg ffydd.’ (Marc 9.23-24)
Ystyriwch beth all fod yn rhwystrau i grediniaeth yn eich bywyd. Gofynnwch i Dduw i’w gwneud yn eglur a dangos i chi sut i’w goresgyn.
Gweddi ar gyfer pob oed gyda’i gilydd
Daeth Iesu at ei ddisgyblion.
Diolch, Dduw, eu bod wedi ei weld ef.
Daeth Iesu at Thomas.
Diolch, Dduw, ei fod wedi ei gyffwrdd ef.
Daw Iesu ataf i.
Diolch, Dduw,
am bopeth rwyt yn ei wneud drosof i.
Amen.
Tudalen/page 37
Gweddi i gloi
Yr oedd llawer o arwyddion eraill a wnaeth Iesu yng ngwydd
ei ddisgyblion, nad ydynt wedi eu cofnodi yn y llyfr hwn.’
Arglwydd, wrth i ni fynd allan heddiw,
boed i ni fyw bywydau sy’n agored i ti,
gan chwilio’n barhaus am gyfleoedd
i ysgrifennu ein llyfrau ein hunain o’th wyrthiau,
gan roi i ti’r gogoniant a’r anrhydedd ym mhopeth a wnawn.
Amen.