Tudalen/page 35
Ymddiried yn y stori
Ioan 20.19-31
Galwad i addoli
Agorwch eich llygaid!
Syrthiwch i lawr ac addolwch;
oherwydd hwn yw eich Arglwydd a’ch Duw.
Amen. Deuwn i addoli.
Gweddi ymgynnull
Rydym yn ymgynnull fel disgyblion i’r Crist byw,
yn dyheu am gael ei adnabod yn well,
gan ymhyfrydu ei fod yn bresennol gyda ni,
ac yn cael llawenydd ynddo ef yn unig.
Amen. Rydym yn ymgynnull fel disgyblion Crist.
Gweddi ddynesu
Dyneswn fel rhai nad ydynt wedi gweld,
rhai sy’n credu – ac yn amau a gobeithio.
Dyneswn at ein Duw, Duw bywyd a chariad;
boed i ni ddod yn nes ato.
Amen. Nesawn at Dduw.
Gweddi o gyffes
Deuwn â chalonnau a meddyliau prysur:
boed i ni gyfaddef i Dduw yr holl bethau
na ddylem eu cludo gyda ni.
O Dduw, maddau i ni pan fethwn dy weld
y tu hwnt i’n holl gwestiynau,
pan wrthodwn gredu, oherwydd ansicrwydd neu ofn,
pan fethwn sylweddoli dy fod yn gweithio o’n mewn.
Maddau i ni, Dduw trugaredd.
O Dduw, maddau i ni pan fyddwn yn dy gadw i ni ein hunain,
yn amharod i rannu dy lawenydd ag eraill,
gan ddewis aros yn ein cynefin cysurus,
y tu ôl i ddrysau caeëdig.
Maddau i ni, Dduw trugaredd.
O Dduw, maddau i ni pan fyddwn yn cymylu ein blaenoriaethau,
yn camddeall ein pwrpas a’n cyraeddiadau,
ac yn gwrthod gwrando arnat yn ein galw.
Maddau i ni, Dduw trugaredd.
Diolchwn i ti am gymryd baich ein pechodau oddi arnom.
Yn enw Iesu.
Amen.
Gweddi o fawl ac addoliad
Dduw cariadus,
molwn ac addolwn di a’th drugaredd fawr,
am ein geni o’r newydd i obaith byw.
Mae gwirionedd gogoneddus yr atgyfodiad yn ein syfrdanu;
gweddïwn na chollwn fyth ryfeddod
yr hyn a wnaethost drosom ni,
na’r etifeddiaeth ryfeddol
a roddi’n barhaus i ni.
Amen.
Gweddïau o eiriolaeth
Dduw graslon, sy’n clywed cri’r anghofiedig,
ac yn gweld y rhai cuddiedig: tyrd yn nes.
Gofynnwn am i’th garedigrwydd cariadus amgylchynu’r rhai
sy’n brwydro yn erbyn pryderon, amheuaeth neu anobaith,
a gweddïwn am i’th heddwch ddod i’w rhan.
Gofynnwn am i’th gariad nerthol, di-ball dorri trwy
blisgyn allanol calonnau a galedodd,
dros y rhai a fu unwaith yn sibrwd dy enw
ond sydd bellach yn anfodlon chwilio amdanat.
Gweddïwn y bydd dy gariad yn eu cymell
i ddynesu atat unwaith yn rhagor.
Meddyliwn am y rhai na wyddant sut i ymdopi â
gorchwylion ymarferol symlaf bywyd –
gweddïwn ar i ti eu galluogi,
ac am i eraill gynnig cymorth addas,
fel na fyddant bellach yn teimlo’n unig.
Trugarha, Dduw graslon, sy’n trechu marwolaeth a phechod.
Rwyt yn gorchfygu’r tywyllwch, ni ellir cyfyngu arnat.
Llenwa ein bywydau heddiw â nerth dy Ysbryd.
Amen.
Gweddi bersonol
Iesu, rho i mi:
ffydd i gerdded yn dy ffyrdd,
gobaith i’th ddilyn yn galonnog,
cariad i adleisio dy gariad di dy hun,
heddwch i’m llenwi
a gorlifo tuag at bawb yr wyf yn eu cyfarfod.
Amen.
Gweithgaredd gweddi
Ysgrifennwch ychydig o eiriau neu ddelweddau sy’n cynrychioli unrhyw gwestiynau neu amheuon sydd gennych ynglŷn â’ch ffydd (yn arbennig y rhai na fyddech yn barod i’w trafod gyda rhywun arall). Daliwch y cwestiynau hynny yn eich dwylo fel arwydd eich bod yn eu cynnig i Dduw, a dywedwch wrthych eich hun, ‘Gellir ymddiried y rhain i Dduw’. Gofynnwch i Dduw eich helpu i fod yn amyneddgar ac yn barod i dderbyn y sefyllfa tra ydych yn aros a chwilio am atebion i’ch cwestiynau.
Gweddi ar gyfer pob oed gyda’i gilydd
Arglwydd Iesu, bydd gennym gwestiynau yn aml (codi un llaw i’r awyr).
Nid ydym bob amser yn canfod ateb (ysgwyd pen),
ond gwyddom y gallwn ymddiried ein hofnau mewnol i ti
(llaw ar y galon).
Cynorthwya ni i edrych tuag atat ti bob amser pan fyddwn yn ansicr
(pwyntio at y llygaid).
Gofynnwn yn dy enw di.
Amen.
Gweddi i gloi
Arglwydd, diolch i ti bod llawnder o lawenydd yn dy bresenoldeb,
ein bod yn canfod bywyd ynot ti.
Rwyt yn ein harwain trwy gydol ein bywydau,
bob amser wrth ein hymyl,
bob amser yn ffyddlon i ni.
Dos o’n blaen yn awr, a boed i ni ddod â llawenydd i’n byd.
Amen.