Tudalen/page 12
Galwad i addoli
‘Anwylyd, ynddot ti yr wyf yn ymhyfrydu, rwyf wedi dy ddewis.’
Arglwydd, wrth i ni gyfarfod i addoli, llanw ni â’th gariad cadarnhaol
fel y cawn ein galluogi i dy wasanaethu di yn ein byd.
Gweddi ymgynnull
Arglwydd, rwyt yn ei galw i dy ddilyn di.
Yn dy Fab Iesu,
gwelwn fywyd o gariad a gwasanaeth gwylaidd er ein mwyn,
mewn ufudd-dod llawen i ti.
Galluoga ni i fyw dy alwad arnom ni gyda’r un ysbryd o wasanaeth,
yn hyderus o’th gariad.
Amen.
Gweddi ddynesu
Arglwydd,
Diolchwn i ti fod Iesu wedi dewis, mewn gostyngeiddrwydd, i uniaethu â ni
yn ein breuder a’n pechod.
Cyflawnodd dy alwad i fod yn was
er mwyn ein dwyn adref atat ti.
Dad, cymeradwyaist ef gyda hyfrydwch fel dy annwyl Fab.
Helpa ni, trwy dy Ysbryd,
i wybod ein bod, trwy Iesu, yn annwyl i ti hefyd.
Amen.
Gweddi o gyffes
Am yr adegau hynny pan fydd ein rhagdybiaethau yn ein dallu rhag gweld dy fwriadau:
maddau i ni, Arglwydd.
Am yr adegau hynny pan fyddwn yn fyddar i’th alwad:,
maddau i ni, Arglwydd.
Am yr achlysuron pan fyddwn yn tynnu’n ôl oddi wrth agosrwydd gyda thi:
maddau i ni, Arglwydd.
Am y dyddiau hynny pan ystyriwn ein hunain yn rhy bwysig i wasanaethu eraill: maddau i ni, Arglwydd.
Am y cyfleoedd a fethwn i galonogi’r rhai y byddwn yn eu cyfarfod neu’n gweithio gyda hwy:
maddau i ni, Arglwydd.
Arglwydd grasol, helpa ni i ddechrau eto gyda llygaid agored, clustiau astud, calonnau awyddus a meddyliau gostyngedig, er mwyn Iesu.
Amen.
Gweddi o ddiolchgarwch
Arglwydd, ni allwn ddirnad pam y dylet ein caru,
ond felly y mae hi.
Ni allwn ddeall pam y dylet ein galw i dy wasanaethu
ond felly y mae hi.
Mae hi bron yn amhosibl i ni amgyffred
pam y dylet dywallt dy Ysbryd Glân arnom,
ond nid wyt yn atal dim.
Diolch am dy gariad. Diolch am ein galw ni.
Diolch am rym dy Ysbryd.
Amen.
Gweddïau o eiriolaeth
Arglwydd, mae gennyt galon fawr dros gynnal dy weision
wrth iddynt gyflawni dy genhadaeth yn y byd.
Felly gweddïwn dros:
y rhai sy’n ceisio cyfiawnder i’r di-rym a dioddefwyr gormes.
Tywallt dy Ysbryd arnynt, O Dad.
Anogwyr y rhai sydd wedi eu sathru
a’r rhai sydd ar fin anobeithio.
Tywallt dy Ysbryd arnynt, O Dad.
Negeswyr sy’n cyhoeddi gwirionedd cariad Duw.
Tywallt dy Ysbryd arnynt, O Dad.
Y rhai sy’n dwyn goleuni i’r rhai sydd wedi eu carcharu yn nhywyllwch anwybodaeth ac ofn.
Tywallt dy Ysbryd arnynt, O Dad.
A throsom ninnau hefyd, wrth i ni geisio gwasanaethu Crist
yn y cymunedau ble rydym yn byw, yn gweithio, neu’n hamddena.
Boed i ni fod yn newyddion da i’r sawl sy’n ein hadnabod,
ac i unrhyw un y down ar eu traws.
Tywallt dy Ysbryd arnom, O Dad.
Amen.
Gweddi bersonol
Arglwydd, rwyt yn troi pethau ben i waered a thu chwith allan.
Rwyt bob amser yn peri syndod i ni.
Pan ddaeth Iesu i ddechrau cenhadaeth ei deyrnas
bu’n herio disgwyliadau:
yr Eneiniog yn ymostwng i fedydd gan y negesydd;
yr Un Sanctaidd yn disgyn i gefnfor o euogrwydd, pechod a gwarth;
y Goruchaf a’r Dyrchafedig yn cymryd arno ffurf gwas.
Does dim syndod y cafwyd ffanffer o’r nefoedd!
Arglwydd, pan gan fy swyno gan ymddangosiadau ar yr wyneb
neu gan ragdybiaethau ffug ynghylch sut y dylwn weithredu neu weithio,
atgoffa fi o fedydd Iesu a sut y byddi di’n gweld pethau’n wahanol.
Amen.
Gweddi ar gyfer pob oed gyda’i gilydd
Dewch at eich gilydd mewn cylch. Trowch i wynebu’r person ar yr ochr dde i chi. Dywedwch gyda’ch gilydd: ‘Rwyt yn annwyl gan Dduw’. Yna trowch i wynebu’r person ar y chwith. Dywedwch gyda’ch gilydd: ‘Rwyt yn annwyl gan Dduw’. Yna trowch i wynebu’r canol gan ddal dwylo. Dywedwch gyda’ch gilydd: ‘Rydych yn annwyl gan Dduw’. Yn olaf trowch i wynebu’r tu allan tuag at y gymuned ble rydych yn byw. Gwaeddwch: ‘Rydych yn annwyl gan Dduw. Halelwia’.
Tudalen/page 13
Gweddi i gloi
Dad, fel y ceraist ti ni, gad i ninnau garu.
Iesu, fel y galwaist ti arnom, helpa ni i ddilyn.
Ysbryd, fel yr anfonaist ti ni, llanw ni â’th nerth.
Amen.