Tudalen/page 32
Galwad i addoli
Dywedodd Ananias, ‘Dyma fi, Arglwydd.’
Dywedodd Pedr, ‘Arglwydd, fe wyddost ti fy mod yn dy garu.’
Dywedodd Paul, ‘Pwy wyt ti, Arglwydd?’
Beth yw’r geiriau yn ein calonnau ninnau heddiw?’
Gweddi ymgynnull
Crist atgyfodedig,
daethost at Paul ar ei ffordd i Ddamascus
ac at Pedr pan oedd yn pysgota.
Tyrd atom ni wrth i ni ddod at ein gilydd
a bydd gyda ni yn ein bywyd bob dydd,
fel y cawn ein trawsffurfio fel hwythau,
gan gyflawni ein potensial a darganfod posibiliadau newydd
mewn gweinidogaeth a gwasanaeth.
Amen.
Gweddi dynesu
Daethom o wahanol leoedd,
gan ddwyn gwahanol feichiau,
gwahanol ddisgwyliadau a gwahanol obeithion,
ond gyda’n gilydd gweddïwn:
Dduw ffordd Damascus,
dryllia ein hunanfodlonrwydd, aflonydda ar ein sicrwydd
ac agor ein calonnau
i bosibiliadau newydd a gwirioneddau newydd,
fel y bydd cen ein rhagfarnau, ein hathrawiaethau a’n camgymeriadau
yn syrthio i ffwrdd, a chawn ein trawsnewid, fel Paul,
i fod yr hyn rwyt am i ni fod.
Gofynnwn hyn yn enw Iesu,
Crist yr hwn a fu fyw, fu farw ac atgyfododd.
Amen.
Gweddi o gyffes
Arglwydd Iesu,
torraist ar draws Pedr yn pysgota a thaith Paul
gan ddwyn pethau gwell.
Maddau i ni pan fyddwn yn torri ar draws eraill
gyda’n hunanbwysigrwydd.
Maddau ein diffyg amynedd pan fydd eraill
yn torri ar ein traws gyda’i hanghenion.
Boed i ni fod yn agored i’th brocio
ac yn hyblyg tuag at y sawl sydd o’n cwmpas,
fel y deled dy deyrnas
a gwneler dy ewyllys.
Amen.
Gweddi bersonol
Arglwydd, tyrd i gael brecwast gyda mi’r bore yma
am fy mod yn teimlo mor unig.
Anfon ataf ffrind fel Ananias
i’m harwain yn ôl ar y llwybr cywir
ac i weini arnaf yn dy enw.
Dyro i mi’r nerth i fod yn ffrind i eraill,
ac yn fy ffordd dawel fy hun boed i mi godi llais
a thynnu eraill i mewn i’th gariad.
Amen.
Gweddi o ddiolchgarwch
O Dduw cynhaliaeth,
diolchwn dy fod yn cwrdd â ni yn ein bywyd bob dydd,
yn ein cadarnhau a’n paratoi ar gyfer yr hyn sydd o’n blaen.
Gyda Pedr fe rown i ti ein cariad.Diolchwn dy fod yn parhau i fwydo dy bobl heddiw
trwy fara dy gorff.
Gyda Pedr fe rown i ti ein newyn.Diolchwn dy fod yn ein galw i dy ddilyn di
er gwaethaf ein methiannau yn y gorffennol.
Gyda Pedr fe rown i ti ein diolchgarwch.Diolchwn dy fod yn cwrdd â ni ar y ffordd
ac yn rhoi cyfeiriad newydd i’n taith.
Gyda Paul fe ymatebwn i’th her.Diolchwn dy fod yn trawsnewid ein hangerdd camsyniol
yn egni dros dy deyrnas.
Gyda Paul gollyngwn bopeth a’n dallodd i dy fwriadau.Diolchwn am y sawl a fu, fel Ananias, yn gyfryngau dy fendith.
Gyda Paul cydnabyddwn ein galwad ac awn allan yn dy nerth.Amen.
Gweddïau o eiriolaeth
I’r sawl sydd â’u bryd ar drais:
gweddïwn am drawsnewidiad Duw.I’r sawl sydd wedi eu dallu gan gasineb:
gweddïwn am iachâd Duw.I’r sawl sydd â’u gwendid yn eu gwneud yn ddibynnol ar eraill:
gweddïwn am ras Duw.I’r sawl sydd wedi colli eu ffordd:
gweddïwn am arweiniad Duw.I’r sawl sy’n teimlo nad oes neb yn eu caru:
gweddïwn am gysur Duw.I’r sawl sy’n gweinidogaethu i eraill:
gweddïwn am addfwynder Duw.I’r holl bobloedd ac i’r holl greadigaeth:
gweddïwn am heddwch Duw.Amen.
Gweddi ar gyfer pob oed gyda’i gilyddArglwydd, dyma ni,
gyda’n holl ffydd a’n holl amheuon,
yn ein holl nerth a’n holl wendid.
Dymunwn dy adnabod di, a dy garu di,
mwy a mwy.
Amen.
Tudalen/page 33
Gweddi i gloi
Boed i’r Ysbryd Glân eich nerthu
i gyhoeddi Iesu fel Mab Duw,
a boed i chi ganfod y Crist atgyfodedig
yn eich gwaith, ac ar eich taith,
yn eich gilydd, ac yn y byd y bu farw drosto.
Amen.