Amser datgelu
Luc 24.13-35
Galwad i addoli
Dewch, cerddwch gydag ef.
Dewch, siaradwch gydag ef.
Dewch i wledda gydag ef.
Dewch, addolwch Iesu, ein Harglwydd atgyfodedig.
Gweddi ymgynnull
Dduw, rydym yn dod at ein gilydd fel dy bobl di.
Rydym yn dod i gerdded ar ein taith gyda’n gilydd,
i siarad a rhannu ar hyd y ffordd,
[i wledda ar fara a gwin],
i gyfarfod ac adnabod Iesu.
Helpa ni i ryfeddu at y cyfan mae Iesu wedi’i wneud er ein mwyn.
Amen.
Gweddi ddynesu
Waredwr atgyfodedig, Arglwydd atgyfodedig,
deuwn atat ti heddiw.
Deuwn i rannu yn dy stori.
Deuwn i wledda gyda thi.
Deuwn at d’orsedd gan wybod
dy fod wedi marw drosom ni ac wedi atgyfodi eto.
Halelwia, Arglwydd Iesu atgyfodedig.
Halelwia.
Amen.
Gweddi o gyffes
Arglwydd atgyfodedig, mae’n ddrwg gennym
ein bod yn methu d’adnabod di yn ein plith,
ein bod yn pryderu gormod am ein pethau ein hunain.
Mae’n ddrwg gennym
ein bod wedi dy siomi,
ein bod yn gwledda heb wahodd eraill i rannu gyda ni.
Mae’n ddrwg gennym
ein bod yn croesawu ffrindiau ond ddim y dieithryn bob amser,
na neb sy’n gwneud i ni deimlo’n anghyfforddus.
Maddau i ni, Arglwydd.
Helpa ni i fod yn bobl hael,
a’n heglwys, ein cartrefi – a’n calonnau –
bob amser yn llefydd croesawus.
Amen.
Gweddi o addoliad a diolchgarwch
Dad, diolchwn i ti am ddod allan i’n cyfarfod
ble bynnag yr ydym.
Molwn ac addolwn di.
Diolchwn i ti am gerdded y ffordd gyda ni, a’n trin fel rhywun
cydradd â thi hyd yn oed pan fyddwn yn methu d’adnabod.
Molwn ac addolwn di.
Rwyt ti bob amser yn ein caru ni, bob amser yn gofalu amdanom,
bob amser eisiau bwyta ac yfed gyda ni – cymaint yw dy gariad.
Molwn ac addolwn di.
Diolch, Arglwydd, nad wyt ti’n ddieithryn, ond yn ffrind i ni.
Molwn ac addolwn di.
Amen.
Gweithgaredd gweddi
Rhannwch dorth o fara (di-glwten, os oes angen) gyda phawb sy’n bresennol,
gan annog pawb i flasu eu darn o fara, ei fwyta’n araf a’i fwynhau.
Gofynnwch i bawb ddychmygu’r pryd bwyd ar ddiwedd y daith i Emaus.
Yna dywedwch gyda’ch gilydd: Arglwydd Iesu atgyfodedig, wrth i ni
wledda gyda thi, helpa ni i’th adnabod di ym mhawb, ym mhobman
ac ym mhob sefyllfa.
Amen.
Gweddi ar gyfer pob oed gyda’i gilydd
Gofynnwch i bawb gerdded o gwmpas y man addoli mewn
grwpiau bach, a meimio bwyta yn ystod y cytgan.
Iesu, rwyt yn cerdded ar y ffordd gyda ni.
Mwynhawn y wledd gyda’n gilydd.
Rydym yn cerdded a siarad a chwerthin.
Mwynhawn y wledd gyda’n gilydd.
Rwyt ti’n rhannu dy stori, a ninnau’n rhannu ein stori ni.
Mwynhawn y wledd gyda’n gilydd.
Rydym wedi blino ac yn aros i orffwyso.
Mwynhawn y wledd gyda’n gilydd.
Rwyt ti’n torri’r bara ac yn diolch i Dduw.
Mwynhawn y wledd gyda’n gilydd.
Rwyt ti’n agor ein llygaid a ninnau’n dy weld.
Mwynhawn y wledd gyda’n gilydd.
Amen.
Gweddïau o eiriolaeth
Arglwydd byw,
deuwn ag anghenion y byd atat ti.
Gweddïwn dros y rhai sy’n ystyried eu hunain yn ddieithriaid a gwehilion.
Helpa ni i groesawu dieithriaid, beth bynnag fo’r gost, a pheidio ag eistedd
yn gyfforddus ac anwybyddu pobl nad ydynt yn ein barn ni yn ffitio,
peidio â chymryd y ffordd hawdd.
Boed i’n cartrefi a’n heglwysi fod yn llefydd
croesawgar, caredig a chariadus,
fel y gall pawb gael cyfle i’th adnabod a’th weld di
yng nghynhesrwydd y rhai sydd o’u cwmpas.
Gweddïwn dros wledydd lle mae bwyd yn brin.
Boed i ni ffermio yn gynaliadwy a bwyta yn gall,
fel bod digon i fwydo’r holl blaned.
Boed i ni beidio ag edrych ar ein holau ein hunain yn unig
ond ceisio rhoi’r un cyfleodd i bawb.
Helpa ni i beidio â bod yn hunanol, ond i ystyried pobl eraill bob amser.
Arglwydd, rydym yn dyheu am y dydd pan fydd pawb
yn y gymdeithas yn gydradd.
Boed i ni fod yn rhannol gyfrifol am weld hynny’n digwydd.
Gweddïwn dros y rhai sy’n unig ac sydd heb neb i fwyta gyda hwy.
Agorwn ein drysau i’n cymdogion, fel bod cariad a chyfeillgarwch
yn ffynnu, a phawb yn medru mwynhau’r wledd.
Gofynnwn yn enw Iesu.
Amen.
Gweddi i gloi
Arglwydd Iesu,
fel y cerddaist ar y ffordd i Emaus,
cerdda gyda ni ar y ffyrdd y teithiwn ni arnynt.
Helpa ni i adnabod dy bresenoldeb gyda ni,
ac i fod yn bresenoldeb drosot ti i eraill.
Ac, ar ddiwedd y dydd,
boed i ni i gyd fwynhau dy wledd.
Amen.
Gweddi bersonol
Grist atgyfodedig, ffrind, cydymaith, iachäwr:
wrth i mi gerdded ar hyd y ffordd o’m blaen
bydd di wrth f’ochr a phaid byth â’m gadael.
Amen.