Beth ydych chi’n ei weld?
Mathew 11.2-11
Galwad i addoli
Dewch i weld gogoniant Duw!
Addolwch ei fawredd, ewch i’w bresenoldeb â llawenydd,
oherwydd dyma’r un sy’n dod â bendith, iachâd a nerth.
Gweddi ymgynnull – a chynnau cannwyll Adfent
Dduw’r Adfent, sy’n ein casglu ynghyd fel dy bobl,
casgla ni heddiw o gwmpas y fflam hon.
Cydnabyddwn o’th flaen fod gennym ein hamheuon a’n pryderon,
ynghyd â phopeth da a roddaist i ni i’w rhannu.
Galw ni i obaith, O Dduw,
i roi ein ffydd ynot ti,
ffynhonnell pob goleuni.
Amen.
Gweddi ddynesu
O Arglwydd ein hachubydd,
deuwn atat ti
gyda’n siomedigaethau a’n creithiau,
ein gwendidau a’n brwydrau.
Deuwn gan wybod mai’r Duw sy’n medru gwrthdroi wyt ti:
rhyddhau’r caethion, rhoi eu golwg i’r deillion,
adfer clyw’r byddar, codi’r rhai crwm i fyny.
Gwna dy bresenoldeb yn wybyddus i ni, O waredwr mawr,
a boed i ni lawenhau yn dy addewidion i ni heddiw.
Amen.
Gweddi o gyffes
O Arglwydd, mae’n ddrwg gennym am yr adegau
pan fyddwn yn cau ein llygaid i’th ddaioni,
pan fyddwn yn cau ein calonnau i’r llawenydd a gynigi,
am ein bod mor brysur yn gwneud ein pethau ein hunain,
yn ceisio gweithio trwy ein nerth ein hunain.
Mae’n ddrwg gennym anwybyddu’r rhai
sy’n brwydro yn erbyn tristwch na allwn ei amgyffred,
y rhai y pylodd lliwiau yn llwyd iddynt,
y rhai sydd angen clywed am dy gariad tuag atynt.
Rho i ni ddewrder a nerth o’r newydd
i rannu gobaith a llawenydd ag eraill,
ac i dystio i’th gariad di-ball.
Amen.
Gweddi o fawl a diolchgarwch
Arglwydd, molwn di
am dy bresenoldeb sy’n medru gweddnewid ein bywydau.
Diolchwn i ti
dy fod yn llawn tosturi a thrugaredd.
Amen.
Gweddi ar gyfer pob oed gyda’i gilydd
Defnyddiwch fysedd i gynrychioli glaw yn disgyn trwy gydol y weddi.
Dduw, anfon law ar ddaear sychedig
a hefyd ar ein calonnau sychedig.
Gweddïwn ar i’th Ysbryd lifo
i’n calonnau a’n llenwi.
Amen.
Gweddïau o eiriolaeth
Arglwydd, rydym yn aros.
Arhoswn am i ti gyflawni dy addewidion
ac am i’th deyrnas ddod yn llawn ac yn barhaol.
Wrth i ni aros, cofiwn am y rhai sy’n ymgodymu ag
amgylchiadau y tu hwnt i’w rheolaeth,
y rhai sy’n teimlo bod eu bywyd yn llithro heibio,
y rhai sy’n aros am obaith nad yw byth yn dod.
Gweddïwn dros y rhai y mae eu ffydd yn gwegian,
a’u hamynedd yn cael ei roi ar brawf wrth aros mor hir,
a thros y rhai y mae eu llygaid yn flinedig
wrth aros am y wawr.
Arhoswn am y goleuni i wawrio ar eu gorwelion,
ac am dy Ysbryd i greu rhywbeth o’r newydd,
rhywbeth llachar, rhywbeth parhaol,
yn ddwfn yn y llefydd hynny
sy’n ymddangos mor anobeithiol.
Arglwydd, cod i fyny y rhai sydd wedi crymu,
y rhai sy’n bell o’u cartrefi, y rhai sydd wedi dieithrio ac sy’n flinedig,
a chod galonnau pob un sy’n aros amdanat.
Yn enw Crist.
Amen.
Gweithgaredd gweddi
Rhowch ddarn o bapur sidan glas, darn o gardfwrdd ac offer
ysgrifennu i bawb. Gofynnwch i bawb ysgrifennu rhywbeth
sy’n achosi poen neu amheuaeth iddynt ar eu papur sidan
(gan ddefnyddio’r cardfwrdd y tu ôl iddo i’w gynnal). Gallant hefyd
ysgrifennu ar ran rhywun arall os yw’n well ganddynt – neu gallant
ei adael yn wag. Neilltuwch amser i gydnabod y pethau hyn mewn
tawelwch gerbron Duw. Diolchwch i Dduw ei fod yn gwybod am
ein dagrau a’n gofidiau. Gwahoddwch bawb i wasgu eu papur sidan
yn belen a’i roi mewn bocs neu bwced, fel ffordd o gynnig eu gofid
a’u poen i Dduw. Yr un pryd, gofynnwch iddynt gymryd darn newydd
o bapur sidan oddi ar bentwr neu o focs, i gynrychioli dechreuad newydd.
Gweddi i gloi
Dduw, boed i ni gludo dy oleuni i’r byd hwn,
gan ddod â gobaith ac anogaeth
i bawb o’n cwmpas,
a chofio dy fod di gyda ni,
a’th fod yn gallu gwneud popeth.
Amen.
Gweddi bersonol
Iesu, cynorthwya fi i’th weld di.
Dangos i mi pwy wyt ti.
Atgoffa fi o’r pethau yr wyt ti wedi’u gwneud,
sut rwyt yn gallu gwrth-droi sefyllfaoedd,
ac nad oes dim yn amhosibl i ti.
Wrth i mi fynd trwy fy nyddiau,
cynorthwya fi i adnabod dy waith yn fy mywyd,
a gweld beth wyt ti wedi’i wneud i mi.
Arglwydd, cynydda fy ffydd ynot ti.
Amen.