Cariad yw Duw
Ioan 15.1-8
Galwad i addoli
Mae’r Arglwydd yn dweud, ‘Myfi yw’r winwydden, chwi yw’r canghennau.
Y mae’r sawl sydd yn aros ynof fi, a minnau ynddo yntau, yn dwyn llawer
o ffrwyth, oherwydd ar wahân i mi ni allwch wneud dim.’
Dewch yn awr, fel canghennau’r winwydden, yn barod i ddwyn ffrwyth.
Dewch yn awr, i addoli.
Gweddi ymgynnull
Bydd holl gyrrau’r ddaear yn cofio ac yn troi tuag at yr Arglwydd;
a bydd holl deuluoedd y cenhedloedd yn addoli o’i flaen ef.
Mae pob tiriogaeth yn perthyn i’r Arglwydd,
ac mae ef yn teyrnasu dros y cenhedloedd.
Mae’r rhai sy’n ei geisio yn moli’r Arglwydd.
Deuwn fel rhai sy’n ceisio, a molwn yr Arglwydd;
boed i’n calonnau fyw am byth!
Amen.
Gweddi ddynesu
Dduw cariadus, yn union fel y disgyblion cyntaf,
rydym yn aros yn dy gariad –
oherwydd anfonaist dy Ysbryd atom.
Yn union fel yr apostolion cyntaf,
gwelsom d’ogoniant di
ym mherson dy Fab.
Felly, cyffeswn mai Iesu Grist yw’r Arglwydd,
oherwydd rydym wedi ei adnabod yn ein bywydau
ac yn credu yn yr hyn a ddangosodd i ni o’th gariad di.
Amen.
Gweddi o gyffes
Dduw cariadus,
cyffeswn yr adegau hynny pan na fu i ni aros yn dy graiad,
pan fu i ni grwydro oddi ar lwybr ffydd a rhedeg ar ôl duwiau eraill.
Yn dy drugaredd, maddau i ni.
Dduw cariadus,
cyffeswn yr adegau hynny pan na fu i ni aros yn dy gariad,
pan fu i ni fethu dangos cariad, a brifo’r rhai o’n cwmpas.
Yn dy drugaredd, maddau i ni.
Dduw cariadus,
cyffeswn yr adegau hynny pan na fu i ni aros yn dy gariad,
pan na fu i ni fod yn atebol i ti
ond yn lle hynny mesur ein gwerth yn ôl ein llwyddiannau ein hunain.
Yn dy drugaredd, maddau i ni.
Gwna i ni roi lle amlwg i’th gariad tuag atom unwaith yn rhagor,
ffurfia ni ac ail-grea ni ar dy ddelwedd di.
Amen.
Gweddi o ddiolchgarwch
Dduw’r Creawdwr, fe’n gwnaethost ar dy ddelw di
a darparu’r cyfan y mae ei angen arnom:
byd â digon ynddo i bawb ei rannu ac ymhyfrydu ynddo.
Am hyn rhoddwn i ti ddiolch a mawl.
Dduw’r Gwaredwr, daethost i faddau ein pechodau
ac i ddangos i ni’r llwybr y dylem ei ddilyn
trwy uchelfannau ac iselfannau bywyd.
Am hyn rhoddwn i ti ddiolch a mawl.
Ysbryd Glân, fe’th anfonwyd di i’n harfogi ar gyfer y gwaith sydd i ddod
ac i’n paratoi ar gyfer y daith o’n blaen,
gan ein herio, ein tocio a’n hannog.
Am hyn rhoddwn i ti ddiolch a mawl.
Amen.
Gweddïau o eiriolaeth
I bawb sydd angen cariad:
boed iddynt adnabod cariad Duw.
I fyd sydd angen cariad:
boed i gariad Duw gael ei ddangos.
I’r rhai sydd angen bwyd:
boed i gariad Duw gael ei rannu.
Gan y rhai sydd angen eu hiacháu:
boed i gariad Duw gael ei brofi.
Gan y rhai sydd angen heddwch:
boed i gariad Duw gael ei deimlo.
Gan y rhai sydd angen gobaith:
boed i gariad Duw gael ei weld.
I’r rhai sydd angen llawenydd:
boed i gariad Duw gael ei ganu.
Gan y rhai sydd angen cyfiawnder:
boed i gariad Duw gael ei glywed.
Gan bob un sydd angen cariad:
boed iddynt wybod am gariad Duw.
Amen.
Gweithgaredd gweddi myfyriol
Ar ôl pob brawddeg, gadewch saib hir ar gyfer myfyrdod tawel.
Sut gall y byd wybod am gariad, os na chaiff yn gyntaf ei garu?
Sut gallwn wybod am Dduw, os na ddaw Duw i’n cyfarfod?
Sut gallwn wybod am faddeuant, os na faddeuir i ni?
Sut gallwn wybod am atgyfodiad, os na fu i ni brofi marwolaeth?
Sut gallwn ni wybod ein Hysgrythurau, os na chawn ein harwain?
Gweddi ar gyfer pob oed gyda’i gilydd
Carwn ein gilydd;
oherwydd daw cariad oddi wrth Dduw.
Carwn y bobl yn ein bywydau:
ein ffrindiau a’n teuluoedd, ein hathrawon a’n cydweithwyr;
oherwydd daw cariad oddi wrth Dduw.
Carwn y gymuned lle rydym yn byw,
y grwpiau yr ydym yn perthyn iddynt, a’r llefydd yr awn iddynt;
oherwydd daw cariad oddi wrth Dduw.
Carwn y byd o’n cwmpas,
gan ofalu amdano a’i ddiogelu.
Boed i ni garu Duw, sy’n ein caru ni.
Amen.
Gweddi i gloi
Arhoswch yn Nuw fel y mae Duw yn aros ynoch chi,
a byddwch yn dwyn llawer o ffrwyth;
oherwydd ni allwn wneud dim os ydym wedi ein
gwahanu oddi wrth Dduw.
Amen.
Gweddi bersonol
Arglwydd Iesu, ti yw’r winwydden a minnau yn un o’r canghennau;
torra i ffwrdd bob cangen ynof fi nad yw’n dwyn ffrwyth
ac sy’n rhwystro tyfiant iach.
Ti yw’r winwydden a minnau yn un o’r canghennau;
cynorthwya fi i aros ynot ti –
yn dy eiriau ac yn dy gariad.
Amen.